Deiliad (gwleidyddiaeth)

Yr un sydd yn dal swydd wleidyddol ar hyn o bryd, neu ar adeg benodol dan sylw, yw'r deiliad. Mewn achosion swyddi etholedig, pan mae'r deiliad yn cynnig am gael ei ailethol, gellir diffinio'r ymgyrch etholiadol fel ras rhwng y deiliad a'r ymgeisydd neu ymgeiswyr sy'n ei herio.

Mae gan y deiliad sawl mantais dros ei wrthwynebwyr mewn etholiadau, gan gynnwys sylw'r cyfryngau ac enw sy'n gyfarwydd i'r cyhoedd, cefnogwyr a chyllidwyr sefydlog, a phrofiad o ymgyrchu a'r broses etholiadol.[1]

  1. (Saesneg) "Why It's Good To Be The Incumbent", NPR (11 Mehefin 2012). Adalwyd ar 7 Gorffennaf 2019.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search